Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2020
Amser:
09.00 -
09.09
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS David J Rowlands AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Garwood, Dirprwy Glerc Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones; roedd David Rowlands yn bresennol yn ei lle.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw’r Rheolwyr Busnes at y ddau newid i fusnes yr wythnos hon - ychwanegu datganiad am y wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a thrafod Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 yn ddiweddarach yn ystod y dydd.
Newid yn y Siambr
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwr Reolwyr y dylai'r Aelodau hynny sy'n eistedd wrth ymyl y seddi sy'n newid (meinciau’r Ceidwadwyr a’r llywodraeth ar hyn o bryd) hefyd adael y Siambr yn ystod y newid, a dychwelyd dim ond ar ôl i'r gloch ganu, er mwyn rhoi digon o le i’r rhai sy’n rheoli’r newid.
Zoom
Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau hynny sy'n ymuno â'r Cyfarfod Llawn yn rhithwir wneud hynny mewn da bryd, a hynny oherwydd bod Zoom yn diweddaru ac mae’n bosibl y bydd angen iddynt roi cyfrinair.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2020
· Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Dasglu’r Cymoedd (45munud)
· Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15 munud)
· Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019-20 (60 munud)
Tynnodd y Trefnydd sylw’r Rheolwyr Busnes at y ddadl ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 15 Rhagfyr a’r cynnig i newid y dyddiad cau i bwyllgorau gyflwyno adroddiad arno i 11 Rhagfyr.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen:
Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2020 –
Dydd Mercher 16 Rhagfyr 2020 –
4 Deddfwriaeth
4.1 Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd angen i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y Gorchymyn erbyn dydd Iau 3 Rhagfyr.
5 Busnes y Senedd
5.1 Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad Nadolig 2020
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer gosod dogfennau yn ystod cyfnod y Nadolig, gan gynnwys cytuno ar y cynnig i glercod ar ddyletswydd fod ar alwad i gyhoeddi unrhyw ddogfennau a osodir rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Cadarnhaodd y Pwyllgor hefyd y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod wythnos gyntaf y tymor a’r trefniadau ar gyfer cyflwyno gwelliannau i filiau.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig.
Diolchodd y Trefnydd i’r Comisiwn am roi trefniadau ar waith i ganiatáu i’r clercod ar ddyletswydd ymdrin ag unrhyw faterion yn ymwneud â Brexit neu Covid yn ystod y cyfnod y bydd y Senedd ar gau.
6 Pwyllgorau
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlen ar gyfer cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddydd Llun, 30 Tachwedd.
6.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - tynnwyd yn ôl